top of page

Cyngor Ieuenctid

Pen-y-bont ar Ogwr

14327_441120992612563_896825033_n.png

Mae Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ar agor i unrhyw bobl ifanc 11-25 oed sy’n byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr neu sy’n mynd i’r ysgol yno. Mae’n cael ei gynnal gan y Tîm Hawliau Plant a Chyfranogi, sef Lois Sutton a Teresa Cox.

Ar hyn o bryd, mae gennym bobl ifanc 12-19 oed yn mynychu o bob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr ac i gyd o wahanol ysgolion, colegau neu’n cael eu haddysgu gartref. Rydyn ni’n cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb ar drydydd dydd Mercher pob mis yn siambr y Cyngor (lle mae’r prif gyngor yn cynnal ei gyfarfodydd) yn y Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu Neuadd Bytholwyrdd ger y Swyddfeydd Dinesig, ac un cyfarfod Sgwrsio ac Ymlacio ar-lein ar ddydd Mercher cyntaf bob mis ar Zoom.

Wythnos 1af – Sesiwn Galw Heibio Sgwrsio ac Ymlacio

3ydd Wythnos - Cyfarfod Cyngor Ieuenctid wyneb yn wyneb

Rydyn ni’n ceisio gwahodd siaradwr gwadd neu weithgarwch ar gyfer rhai cyfarfodydd - mae rhai pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn gofyn cwestiynau neu gynnal gweithdai, tra bo eraill yn mewngofnodi a gwylio’r cyfarfod, does dim pwysau o gwbl.

Rydyn ni’n weithgar iawn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, mae croeso i chi fwrw golwg ar ein-

Tudalen Facebook: The Bridgend Youth Council

Tudalen Instagram: @bridgendyouthcouncil1

Twitter:  @BridgendYouthC

….i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.

Mae gennym ni Grŵp WhatsApp Cyngor Ieuenctid lle’r ydym yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a’r dolenni i’n cyfarfodydd Zoom - dyma’r ffordd hawsaf o rannu’r dolenni i’n cyfarfodydd ac unrhyw wybodaeth arall, ond gallwn anfon y dolenni a’r wybodaeth mewn e-bost yn lle hynny ar gais. NODER: mae gan rai o’n haelodau iau rifau eu rhieni ar y grŵp WhatsApp yn hytrach/hefyd J

bottom of page