top of page

Cymorth Costau Byw

Coins.PNG
Mae'r argyfwng Costau Byw wedi effeithio ar lawer ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl ac rwy'n awyddus i sicrhau bod gan etholwyr fynediad ar unwaith at y gefnogaeth a'r cyngor sydd ar gael a'r help mae ganddyn nhw’r hawl iddo.
 
Os oes angen cymorth arnoch, bydd y dolenni isod yn gallu'ch helpu i ddeall pa gymorth y gallech fod â hawl iddo.

 

 

Hwb Cyngor Llywodraeth Cymru

 

Mae amrywiaeth o opsiynau cymorth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Cliciwch y botwm isod am y cymorth diweddaraf sydd ar gael.

Cliciwch yma.

 

Cyfleustodau

 

Cynllun cymorth tanwydd

Mae Llywodraeth Cymru'n ymestyn ei Chynllun Cymorth Tanwydd yr hydref a'r gaeaf hwn, sy'n golygu y bydd mwy o gartrefi'n gymwys i elwa ar daliad o £200 i helpu i gadw eu cartrefi'n glyd. Bydd dros 400,000 o aelwydydd bellach yn gymwys i dderbyn y taliad o £200. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth:

https://llyw.cymru/ymestyn-cynllun-cymorth-tanwydd-llywodraeth-cymru-i-fwy-na-400000-o-aelwydydd-incwm-isel-yn-dilyn

 

Cynllun Cymorth Costau Byw

Mae'r taliad cymorth costau byw gwerth £150 yn cael ei roi i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau'r dreth gyngor A i D, a phob aelwyd sy'n derbyn cymorth gan y Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor waeth beth fo'u band treth gyngor.

 

Bydd taliadau'n cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc pobl gan eu Hawdurdod Lleol. Os nad ydych yn talu eich treth cyngor drwy ddebyd uniongyrchol, bydd preswylwyr yr effeithir arnyn nhw yn derbyn llythyr gan y cyngor gyda chyfarwyddiadau pellach.

 

Cronfa Cymorth Dewisol

Grant i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn argyfwng os ydych:

  • yn profi caledi ariannol eithafol

  • wedi colli eich swydd

  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Dolen yma –https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf

 

National Energy Action

Os nad ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn gallu fforddio cynhesu'r cartref mae NEA yn cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth yn uniongyrchol i bobl mewn angen.

Ffoniwch 0800 304 7159, o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am-12.00pm neu ewch i www.nea.org.uk.

 

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn cynnig cyngor, atgyfeiriadau, a mynediad at grantiau. Mae eu prosiect Pobl Iach Cartrefi Iach a phrosiect HHHP+ ar gael i bawb i'ch helpu trwy eich cefnogi chi i leihau eich biliau ynni, gwneud cais am gynlluniau grant a chefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio'n feddyliol gan dlodi tanwydd.

Ffoniwch 01656 747 622, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am – 5.00pm neu ewch i https://www.warmwales.org.uk/cy/.

 

Nyth Cymru

Mae cynllun Nyth yn cynnig pob math o gyngor diduedd, am ddim, ac yn cynnig gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i'r rhai sy'n gymwys. Am ragor o fanylion ewch i: https://nyth.llyw.cymru/ neu ffoniwch 0808 808 2244

 

Power Up

Mae Power Up yn hyb cynghori sy'n cynnig ystod o gymorth ar incwm, tariffau ac effeithlonrwydd ynni i'r rhai a allai fod yn agored i niwed pe bai toriad pŵer.

Ffoniwch 0808 808 2274, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am – 5.00pm neu ewch i https://www.westernpower.co.uk/customers-and-community/priority-services/power-up.

 

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn sefydliad annibynnol sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn llais uchel ei barch a dibynadwy ar effeithlonrwydd ynni ac yn gweithio i rymuso deiliaid tai i wneud dewisiadau ynni gwell. Am ragor o fanylion ewch i:

www.energysavingtrust.org.uk

 

Dŵr Cymru – Tariff HelpU

Mae'r tariff HelpU yn helpu'r aelwydydd incwm isaf yn ein rhanbarth. Os ydych yn gymwys, byddwn yn capio eich bil dŵr fel na fyddwch yn talu dros swm penodol am y flwyddyn.

Os oes gennych fesurydd dŵr, ni fyddwch byth yn talu mwy na'r swm rydych wedi'i ddefnyddio. Os yw eich defnydd yn llai na swm cap HelpU, bydd eich bil ond am y dŵr rydych chi wedi'i ddefnyddio. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth:

https://www.dwrcymru.com/cy-gb/support-with-bills/helpu-tariff

 

'Tariffau cymdeithasol’ Band eang

Os ydych ar rai budd-daliadau, efallai y bydd gennych hawl i fand eang rhatach. Mae llawer o gwmnïau'n cynnig y tariffau cymdeithasol hyn, ond dydyn nhw ddim yn cael eu hysbysebu'n dda. Am ragor o fanylion ewch i:

www.moneysavingexpert.com/utilities/broadband-and-tv/broadband-for-low-income-families/

 

Help gyda'ch biliau ynni – Llywodraeth y DU

Bydd miliynau o'r cartrefi mwyaf agored i niwed yn derbyn cyfanswm o £1,200 o gefnogaeth untro eleni i helpu gyda chostau byw a biliau ynni, gyda phob cwsmer trydan domestig yn derbyn o leiaf £400. Am ragor o fanylion, ewch i:

https://helpforhouseholds.campaign.gov.uk/help-with-your-bills/

 

Tai

Tai Hafod

Mae Hafod yn darparu ystod eang o wasanaethau tai, cymorth a gofal yn Ogwr.

Ffoniwch 0800 024 8968, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm am gymorth.

 

Cymdeithas Tai Wales & West 

Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent neu filiau eraill yn y cartref, cysylltwch â'ch swyddog tai. Os nad ydych chi'n adnabod eich swyddog tai, ffoniwch 0800 052 2526 neu ewch i https://www.wwha.co.uk/cy/faqs/pwy-ddylwn-i-gysylltu-a-nhw-os-oes-gennyf-ymholiadau-am-fy-rhent/ .

 

Gofal a Thrwsio Cymru

Mae Gofal a Thrwsio yn helpu pobl hŷn Cymru i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maen nhw'n rhoi help ymarferol i greu cartrefi diogel, cynnes a hygyrch. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.careandrepair.org.uk/cy/

 

Shelter Cymru

Mae Shelter Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim i'ch cefnogi gyda'ch trafferthion tai. Am ragor o fanylion ewch i:

https://sheltercymru.org.uk/cy/ neu ffoniwch 08000 495 495

 

Hawl i Fudd-daliadau

 

Credyd Cynhwysol

Efallai eich bod yn gymwys i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gweithio ond ar incwm isel, allan o waith neu os na allwch weithio.  Hawliwch ar-lein yn:

https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol/sut-i-wneud-cais neu ffoniwch Linell Gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644 (Llinell Gymraeg:  0800 328 1744).

 

Credyd Pensiwn

Budd-dal prawf modd di-dreth yw’r Credyd Pensiwn sydd wedi'i anelu at bobl wedi ymddeol ar incwm isel. Os yn gymwys, mae'n bosib y byddai gennych hawl i gael budd-daliadau eraill fel gostyngiadau treth gyngor a thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Dyw tua 850,000 o aelwydydd cymwys ddim yn hawlio'r budd-dal hwn y mae ganddyn nhw hawl iddo.

Hawliwch ar-lein yn https://www.gov.uk/credyd-pensiwn neu ffoniwch 0800 99 1234.

 

Taliad Annibyniaeth Personol

Taliadau i gefnogi costau byw i unigolion sydd:

  • Â chyflwr iechyd meddwl corfforol neu anabledd hirdymor

  • Yn ei chael hi'n anodd gwneud rhai tasgau bob dydd neu fynd i lefydd oherwydd eu cyflwr

Mae mwy o wybodaeth yma –https://www.gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip

 

Lwfans Treth Priodasol

Gallwch elwa ar Lwfans Priodasol os yw pob un o'r canlynol yn gymwys: rydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil; dydych chi ddim yn talu Treth Incwm neu os yw'ch incwm yn is na'ch Lwfans Personol (£12,570 fel arfer); ac, mae'ch partner yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol, sy'n golygu fel arfer bod ei incwm rhwng £12,571 a £50,270, cyn derbyn Lwfans Priodasol. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.gov.uk/lwfans-priodasol

 

Rhyddhad Treth i Gyflogeion

Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth os ydych yn defnyddio eich arian eich hun ar gyfer pethau y mae'n rhaid i chi eu prynu ar gyfer eich swydd ac mai dim ond ar gyfer gwaith rydych chi'n defnyddio'r pethau hyn. Mae sawl cynllun rhyddhad treth gwahanol ar gael. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.gov.uk/rhyddhad-treth-ar-gyfer-cyflogeion

 

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar bobl er mwyn dod o hyd i’w ffordd ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw, a beth bynnag yw eu problem. Mae'r elusen genedlaethol a'r rhwydwaith o elusennau lleol yn cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac yn bersonol, am ddim. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ neu ffoniwch 0800 702 2020

 

Age Connects Morgannnwg

Os ydych chi dros 50 oed ac yn dymuno cael gwybodaeth am y math o fudd-daliadau y gallech chi fod â hawl iddyn nhw, mae Age Connects yn cynnig pob math o gyngor a chefnogaeth, fel gwiriadau budd-daliadau lles am ddim a chymorth wrth lenwi ffurflenni.

Ffoniwch 01443 490650, o ddydd Llun i ddydd Iau 9.00am – 5.00pm, Dydd Gwener 9.00am – 4.30pm neu ewch ihttps://www.acmorgannwg.org.uk/.

 

Advicelink Cymru

Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar amrywiaeth o bynciau megis:

  • budd-daliadau lles

  • dyled

  • cyflogaeth

  • addysg

  • tai

  • gwahaniaethu.

Cysylltwch â chynghorydd heddiw drwy ffonio'r llinell gymorth am ddim ar 0800 702 2020 neu ewch i https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/amdanom-ni/our-work/advice-partnerships/advicelink-cymru/   

 

Cynilion, Benthyciadau a Dyledion

 

Stop Loan Sharks Wales

Mae Stop Loan Sharks Wales yma i warchod y rhai sy'n benthyg arian. Maen nhw’n cynnig pob math o gymorth i'ch helpu i chwilio am fathau eraill o gymorth ariannol a chredyd, yn ogystal â darparu cyngor ar sut i sicrhau eich bod yn derbyn yr incwm a'r budd-daliadau uchaf ar eich cyfer chi.

Ffoniwch 0300 123 3311 am gymorth. Mae'r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd ac yn cael ei gweithredu mewn modd cwbl gyfrinachol.

 

Elusen Dyledion StepChange

Mae StepChange wedi helpu cannoedd ar filoedd o bobl y flwyddyn i ddelio â'u problemau dyled. Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad, gallan nhw ddarparu'r cyngor a'r cymorth sydd eu hangen ar bobl i sicrhau eu bod yn rheoli eu harian yn llwyddiannus yn yr hirdymor. Am ragor o fanylion ewch i:

www.stepchange.org neu ffoniwch 0800 138 1111

 

Helpwr Arian

Mae Helpwr Arian yma i helpu, fel y gallwch fwrw ymlaen â'ch bywyd. Yma i dorri trwy'r jargon a'r cymhlethdod, esbonio beth sydd angen i chi ei wneud a sut gallwch chi ei wneud. Yma i roi rheolaeth i chi, gyda chymorth diduedd, am ddim sy'n hawdd i ddod o hyd iddo'n gyflym, yn hawdd ei ddefnyddio gyda'r llywodraeth yn ei gefnogi. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.moneyhelper.org.uk/cy neu ffoniwch 0800 011 3797

 

Money Saving Expert

Am awgrymiadau, syniadau a chanllawiau ar bob dim dan haul sy'n gysylltiedig ag arian. Cynghorion ar sut i wario llai a gwneud y gorau o unrhyw fargeinion a chynigion. Am ragor o fanylion ewch i:

www.moneysavingexpert.com

 

Bwyd 

 

Baobab Bach

Gan weithio gyda sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr rydym yn adeiladu ac yn helpu i gynnal pantris cymunedol sy'n rhoi help llaw i'r rhai sydd ei angen o fewn ein cymunedau. Ein nod yw hyrwyddo iechyd meddwl da, cefnogi'r amgylchedd a dileu tlodi bwyd.

baobab-bach.org

 

Bocs Mawr Bwyd

Ein nod yw sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd a bod pob plentyn yn gallu dysgu sut i wneud dewisiadau bwyd da sy'n ei alluogi i ffynnu.

Bydd plant a theuluoedd yn cael bwyd am brisiau 'talu fel gwelwch yn dda’ gyda chymorth profiadau dysgu dilys drwy dyfu a choginio bwyd.

www.bigbocsbwyd.co.uk

 

Banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell

Er mwyn gallu manteisio ar fanc bwyd, rhaid i chi gael eich cyfeirio gan asiantaeth leol i gael taleb. Mae’r rhain yn cynnwys: Meddygon, Gweithwyr Cymdeithasol, Ymwelwyr Iechyd a Cyngor Ar Bopeth.

Ar ôl i chi gael taleb, gallwch gyfnewid hyn am o leiaf dri diwrnod o fwyd brys yn eich canolfan banc bwyd agosaf.

 

Cynllun Cychwyn Iach

Os ydych chi'n feichiog ers mwy na 10 wythnos neu os oes gennych blentyn o dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth. Anfonir cerdyn Cychwyn Iach atoch gydag arian arno y gallwch ei ddefnyddio yn rhai o siopau'r DU i brynu eitemau fel: llaeth; ffrwythau a llysiau ffres, wedi rhewi, ac mewn tun; llaeth fformiwla gwib; Fitaminau Cychwyn Iach. Am ragor o fanylion ewch i:

www.healthystart.nhs.uk

 

Plant a Theuluoedd 

 

Prydau ysgol am ddim

Mae brecwast am ddim ar gael i bob plentyn yng Nghymru. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i blant cymwys yng Nghymru, ac maen nhw’n parhau i gael eu darparu yn ystod gwyliau ysgol. Gwybodaeth bellach isod:

 

Grant Datblygu Disgyblion

Mae'n helpu teuluoedd gyda chostau'r diwrnod ysgol a gellir ei ddefnyddio ar gyfer eitemau fel gwisg ysgol ac offer. Gall dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais am y grant o £125 y dysgwr, a £200 i'r dysgwyr hynny sy'n cyrraedd blwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd. Rhagor o wybodaeth yma:

https://llyw.cymru/grant-datblygu-disgyblion-mynediad

 

Cynnig Gofal Plant i Gymru – Llywodraeth Cymru

O dan gynnig gofal plant Cymru, gallech hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Ei nod yw gwneud bywyd ychydig yn haws i rieni trwy gynnig help gyda chostau gofal plant. Am ragor o fanylion ewch i:

https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch

 

Cynhyrchion mislif

Darperir cynhyrchion mislif am ddim mewn colegau ac ysgolion, ac mae awdurdodau lleol yn darparu cynnyrch mislif am ddim mewn lleoliadau cymunedol fel hybiau a llyfrgelloedd

 

Cymorth yn y Gwaith

 

Cyngres yr Undebau Llafur (TUC)

Ar gyfartaledd mae aelodau undeb yn cael tâl uwch, gwell budd-daliadau salwch a phensiwn, mwy o wyliau â thâl a mwy o reolaeth dros bethau fel shifftiau ac oriau gwaith. Y rheswm am hyn yw bod gweithwyr yn dod at ei gilydd i drafod tâl ac amodau yn hytrach na'i adael i reolwyr benderfynu. Gall aelodau undeb hefyd fod â hawl i fudd-daliadau ychwanegol fel yswiriant ceir rhatach neu yswiriant iechyd. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.tuc.org.uk/join-a-union?language=cy

 

Lles

 

Byw Heb Ofn

Mae Byw Heb Ofn yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol sy’n hawdd cael gafael arni i bob dioddefwr a goroeswr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atyn nhw, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr, gan roi sylw i amrywiaeth o faterion a allai fod yn berthnasol i'ch sefyllfa. Mae ar agor 24/7, mae’n ddi-dâl ac ni fydd yn ymddangos ar filiau ffôn. Mae'r opsiynau canlynol ar gael am gymorth:

Ffôn: 0808 80 10 800 (Croesewir galwadau yn Gymraeg / Calls are welcomed in Welsh)
Gwasanaeth testun: 07860 077333
Cyfeiriad e-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Sgwrs Fyw: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn

 

Llinell gymorth C.A.L.L.

Llinell gymorth benodol ar gyfer iechyd meddwl yw Llinell Gymorth C.A.L.L. Mae'n darparu cymorth cyfrinachol i'ch helpu i ddod o hyd i gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennol.

Ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch 'help' i 81066.

 

Y Samariaid yng Nghymru

Yn cynnig lle diogel i chi siarad pryd bynnag rydych chi am wneud hynny,  yn eich ffordd eich hun – am beth bynnag sy'n eich blino.  Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/ neu ffoniwch am ddim ar 116 123 neu e-bostiwch: jo@samaritans.org.

 

GamCare

Mae GamCare yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan niwed gamblo. Maen nhw’n gweithredu'r Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol, yn darparu triniaeth i unrhyw un sy'n cael ei niweidio gan gamblo, yn creu ymwybyddiaeth am gamblo mwy diogel a thriniaeth, ac yn annog ymagwedd effeithiol at gamblo mwy diogel o fewn y diwydiant gamblo. Am ragor o fanylion ewch i:

www.gamcare.org.uk neu ffoniwch 0808 8020 133

 

Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru

Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, a elwir hefyd yn DAN yn llinell gymorth ffôn ddwyieithog 24/7 am ddim sy'n darparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno rhagor o wybodaeth a / neu help yn ymwneud â chyffuriau a / neu alcohol. Am ragor o fanylion ewch i:

https://dan247.org.uk/cy/hafan/ neu ffoniwch 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i 81066.

 

Helpa fi i Stopio

Help a chefnogaeth i roi'r gorau i smygu. Am ragor o fanylion ewch i:

https://www.helpafiistopio.cymru/ neu ffoniwch 0800 085 2219.

_____________________________________________________________________________________________

bottom of page