top of page

PAPYRYS

Prevention of Young Suicide

PAPYRUS.png

Elusen yn y DU yw PAPYRUS Prevention of Young Suicide sydd wedi ymroi i atal hunanladdiad a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant emosiynol cadarnhaol ymhlith pobl ifanc. Mae PAPYRUS yn bodoli i leihau nifer y bobl ifanc sy'n lladd eu hunain, trwy chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad a dysgu’r sgiliau i bobl ifanc a'u cymunedau i gydnabod ac ymateb i ofid emosiynol.

Rydym yn gwneud hyn mewn pum ffordd: cefnogi'r rhai sy'n meddwl am hunanladdiad, cynorthwyo a galluogi cymunedau trwy hyfforddiant atal hunanladdiad a chodi ymwybyddiaeth, dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth ar raddfa leol a chenedlaethol, galluogi staff a gwirfoddolwyr fel y gallant fod yn effeithiol ac yn gynhyrchiol, a chynnal parhad a thwf yr elusen yn y dyfodol.

Yn HOPELINE247 – llinell gymorth atal hunanladdiad benodol PAPYRUS – mae ein cynghorwyr hyfforddedig yn gweithio ar gynllun diogelwch gyda phobl ifanc 35 oed ac iau sy'n meddwl am hunanladdiad, i helpu i'w cadw'n ddiogel am y tro. 
 

I ffonio HOPELINE247 ffoniwch 0800 068 4141; tecstiwch 07860 039967; neu e-bostiwch pat@papyrus-uk.org.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau PAPYRUS, ewch i: papyrus-uk.org

bottom of page