Pobl hŷn
Mae nofio FEEL GOOD FOR LIFE yn cael ei gynnal bob dydd Mercher yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (ac eithrio gwyliau ysgol pan rydym yn cynnig gweithgareddau eraill y tu allan i’r pwll) am 2pm. Mae yna sesiwn hefyd bob dydd Llun yng Nghanolfan Fywyd Cwm Ogwr (gwiriwch y trefniadau ar gyfer Gwyliau Banc) am 2.15pm.
Bydd cyfle i gymdeithasu tan tua 4pm.
Mae pob sesiwn yn costio £2. Mae’r sesiynau AM DDIM i ofalwyr ac mae pawb yn cael te/coffi a bisgedi AM DDIM.
Nid oes rheidrwydd i ofalwyr fynd i’r dŵr gyda’r cyfranogwr, ac efallai y gallant eistedd wrth ochr y pwll neu yn ein hardal wylio. Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi’r rhai sy’n dymuno mynychu’r sesiwn hon.
Ac eithrio gwisg nofio a thywel, byddai’n fuddiol dod â chlo bychan ar gyfer y locer ac arian mân ar gyfer parcio (gallwch gael ad-daliad yn y dderbynfa). Mae croeso i chi ddod â llun i roi ar eich locer yn ystod y sesiwn i’ch helpu chi i ddod o hyd iddo’n hawdd.