top of page

Lads & Dads

Llesiant dynion

lads and dads.png

Rydyn ni’n grŵp i ddynion sydd am helpu ein gilydd gyda straen meddyliol a ddaw i’n rhan mewn bywyd. Ers ei sefydlu yn 2019, mae gan Lads & Dads 1,100+ o aelodau brwd erbyn hyn, gydag 11 aelod pwyllgor dibynadwy.

​

Beth bynnag yw’r broblem, mae Lads & Dads yn lle diogel i rannu. Mae ein haelodau’n cynnig cefnogaeth drwy gyngor a chyfarfodydd. Cofiwch, mae problem yn ymddangos yn llai o’i rhannu. Rydyn ni’n griw cymdeithasol, ac yn mwynhau cyfarfod yn rheolaidd i wneud pethau fel nofio yn y môr. Peidiwch â phoeni, os nad yw dŵr oer yn apelio atoch chi, rydyn ni’n trefnu teithiau cerdded rheolaidd a chyfarfodydd hefyd i apelio i fwy o’n haelodau. Rydyn ni’n chwilio am syniadau newydd bob amser, felly peidiwch â bod ofn cyflwyno syniad i’n pwyllgor. Syniad Rob Lester yw’r grŵp, wedi’i ysbrydoli gan ei brofiadau trawmatig ei hun a’i ymwybyddiaeth gynyddol o gyfraddau hunanladdiad ymysg dynion. Defnyddiodd Rob grwpiau Facebook lleol i holi am farn pobl ynghylch sefydlu grŵp llesiant meddwl i ddynion. Ar ôl derbyn sawl ymateb positif yn lleol, sefydlodd Rob Lads & Dads. Mae’r grŵp yn ei drydedd flwyddyn erbyn hyn, ac mae ganddo dros 1,100 o aelodau brwd gydag 11 o aelodau pwyllgor sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod y grŵp yn parhau’n effeithiol. Ymunwch â ni ar ein gwefan neu cymerwch ran drwy ein grŵp Facebook.

Sarah red logo no background.png
Huw (2).png
Seneddcymru-Horizontal-lockup.png

Nid Mae Senedd Cymru, neu Sarah Murphy yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau.

Neither the Welsh Parliament, nor Sarah Murphy, are responsible for the content of external links or websites.

 

Talwyd costau’r wefan hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds.

 

© 2022 Llwybr Iechyd Meddwl Pen-y-bont ar Ogwr gan Sarah Murphy AS. Bridgend Mental Health Pathway by Sarah Murphy MS.

bottom of page