top of page
Happy Dayz LCDP
Mae Happy Dayz yn grŵp cymorth iechyd meddwl gan gymheiriaid sy'n creu amgylchedd diogel, cyfeillgar i bobl ddod at ei gilydd i sgwrsio, cael cefnogaeth a gwybodaeth a chael eu cyfeirio at asiantaethau arbenigol.
Rydyn ni’n cwrdd yn wythnosol yng Nghanolfan Galw Heibio Llanharan, ar ddydd Iau, 1pm i 3pm.
Rydyn ni’n dod at ein gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft gydag Artist Cymunedol ac yn creu amrywiaeth o weithiau celf, cael sgwrs dros baned a cheisio cynnig gweithgareddau eraill sy'n addas i holl aelodau'r grŵp.
bottom of page