top of page

Tîm Cymunedau Actif Halo

49564046_10157521053859316_3357053134131167232_n.jpg

Mae ein Tîm Cymunedau Actif yma i helpu pobl sy’n cael ymarfer corff yn anodd am ba reswm bynnag – gall hyn fod oherwydd oedran, salwch, anabledd neu anhawster symud. Rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr lleol sydd am roi lles y gweithle ar yr agenda a chefnogi eu staff i fod yn fwy actif a byw bywydau iachach.

 

Trwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid mae’r Tîm yn darparu dewis cyffrous o brosiectau (llawer ohonynt wedi ennill gwobrau!) gyda’r prif nod o wneud ymarfer corff yn gynhwysol, gwneud gwahaniaeth drwy gefnogi cymunedau lleol a gwella bywydau.

bottom of page