top of page

BETH YW'R LLWYBR?

Mae Llwybr Iechyd Meddwl Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu fel un pwynt mynediad er mwyn nodi grwpiau cymorth ataliol ac ymyrraeth gynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac estyn allan atynt.

Mae'r llwybr yn offeryn sy’n hawdd i drigolion fynd ato fel y gallant ddysgu am y gwasanaethau cymorth yn y gymuned, gan greu pwynt hunangyfeirio i drigolion sydd ar gael yn rhwydd er mwyn iddynt ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir ar hyd a lled Pen-y-bont ar Ogwr. Gall darparwyr gofal sylfaenol fel meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n teimlo y gallai eu cleifion elwa o gymorth cymunedol ei ddefnyddio hefyd.

what is the pathway?

The Bridgend Mental Health Pathway acts as a point of access to identify and reach out to early intervention, preventative support groups within Bridgend.

The pathway is an easily accessible tool for residents to become aware of the support services in the community, creating an easy access point of self-referral for residents to use services provided throughout Bridgend. The pathway can also be used by primary care givers such as GP's and other health professionals who feel as though their patients may benefit from community support.

SUT MAE'R LLWYBR
YN GWEITHIO?

Mae Llwybr Iechyd Meddwl Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu fel un pwynt mynediad er mwyn nodi grwpiau cymorth ataliol ac ymyrraeth gynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac estyn allan atynt.
 

Bydd y llwybr yn dilyn fformat gwefan a fydd yn llywio sefydliadau’r sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn ôl categorïau. Bydd pobl sy'n ymweld â'r wefan yn gallu darllen bywgraffiad wedi’i ddarparu gan y grŵp cymorth, ynghyd ag unrhyw wybodaeth am y grŵp. Bydd y wefan yn darparu botwm "cysylltu â ni" hefyd a fydd yn cyfeirio ymwelwyr yn uniongyrchol at y grŵp cymorth a ddewiswyd. Yna bydd yr ymwelydd yn gallu cysylltu â'r grŵp cymorth gan ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael.

how does the pathway work?

The Bridgend Mental Health Pathway acts as a single point of access to identify and reach out to early intervention, preventative support groups within Bridgend.

The pathway will take the format of a website which will navigate the voluntary and third-sector organisations by categorisation. People visiting the website will be able to read a biography provided by the support group, along with any relevant information about the group. The website will also provide a "get in touch" button which will be sent visitors direct to the selected support group. The visitor will then be able to contact the support group using the available methods.

AM I'CH GWASANAETH GAEL EI RESTRU?

Os ydych chi'n cynrychioli gwasanaeth lleol yr ydych yn teimlo a fyddai o fudd i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, ewch ati i lenwi ein ffurflen gyswllt fer a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich cais.

Cofiwch Restru Eich Gwasanaeth

Thanks for submitting!

want your service
to be listed?

If you represent a local service that you feel would benefit residents in Bridgend and Porthcawl, please fill out our short contact form and a member of our team will be in touch to discuss your application.

Get Your Service Listed

Thanks for submitting!

bottom of page